Enghraifft o'r canlynol | dirwasgiad |
---|---|
Dyddiad | 2000s, 2010s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod 2008–2011 fe ddirywiodd economi'r byd i lefelau nas gwelwyd erioed cyn hynny. Yn ystod yr amser yma, a elwir yn argyfwng economaidd 2008-presennol (Saesneg: The Great Recession), cafwyd gostyngiad sylweddol mewn prisiau tai ac eiddo, gostyngiad ym marchnadoedd stoc y byd a nifer o fanciau yn mynd i'r wal.[1][2] Un o'r mesurau a gymerwyd yng ngwledydd y Gorllewin i geisio atal yr argyfwng oedd lliniaru meintiol.
Caiff economi gwlad ei alw'n "argyfwng economaidd" pan fo gwlad mewn dyled neu ddiffyg o ran ei GDP am ddau chwarter ar ôl ei gilydd. Parodd yr argyfwng, yn ôl y diffiniad hwn rhwng Q4-2011 hyd at Q2-2012 (9 mis).[3]
Ar ddechrau'r argyfwng cafwyd sawl cyhoeddiad negyddol am system forgais Unol Daleithiau America; deilliodd yr argyfwng o'r hyn a elwid yn 'fenthyg tocsig', sef trachwant cwmniau i wneud elw ac i roi morgeisi i bobl nad oeddent yn medru fforddio ei dalu'n ôl. Ymledodd yr argyfwng tai hwn a elwid yn Subprime mortgage crisis drwy'r byd. Dyma gychwyn y dirwasgiad byd-eang. Gwelwyd pris olew yn dyblu mewn ychydig fisoedd ychydig cyn hyn, ac yna yn ôl i tua $85 y gasgen yn Medi 2008. Gwelwyd hefyd diweithdra'n codi drwy'r byd a dyblodd rhwng Mehefin a Chwefror 2009 yng Ngwledydd Prydain - o 1 miliwn i tua dwy filiwn o bobol.
O ganol 2008 ymlaen cafwyd hefyd argyfwng global ceir a ddeilliodd (unwaith eto) yn America, ac yna yn Ewrop a Japan. Aeth pethau'n ddrwg iawn ar General Motors yn Ebrill a Mai 2009. Syrthiodd incwm cyfartalog teuluoedd UDA 35%: o $106,591 yn 2005 i $68,839 yn 2011.[4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search